Adroddiad drafft y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

CLA(4)-19-14

 

Teitl: Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Adnabod Cŵn) (Cymru) 2014

 

Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer gwneud microsglodynnu yn orfodol er mwyn adnabod cŵn, ac er mwyn i’r microsglodyn ac enw ceidwad y ci gael eu cofrestru ar gronfa ddata.

 

Gweithdrefn:  Cadarnhaol

 

Materion technegol: craffu

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

 

Craffu ar y Rhinweddau

O dan Reol Sefydlog 21.3, gwahoddir y Cynulliad i roi sylw arbennig i’r offeryn hwn ar y sail a ganlyn:-

 

1. Rheol Sefydlog 21.3 (iv) – ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy'n debygol o fod o ddiddordeb i'r Cynulliad.

Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer nodi'r holl gŵn yng Nghymru drwy fewnblannu microsglodyn. Bydd yn ofynnol i gŵn a anwyd ar ôl i'r ddeddfwriaeth gychwyn gael microsglodyn cyn eu bod yn 56 diwrnod oed, neu cyn iddynt gael eu trosglwyddo i geidwad newydd, pa un bynnag yw'r cynharaf.  Bydd yn ofynnol i gŵn a fydd yn mynd at geidwad arall ar ôl i'r rheoliadau ddod i rym gael microsglodyn. Heblaw mewn ambell eithriad, rhaid i bob ci yng Nghymru gael microsglodyn erbyn 1 Mawrth 2015 fan hwyraf.

 

2. Rheol Sefydlog 21.3 (v) - nad yw’n gwireddu ei amcanion polisi yn berffaith

 

2.1     Mae'r Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig, tudalen 3) yn nodi mai diben y Rheoliadau yw “to allow the permanent identification of dogs through the implantation and subsequent registration of a microchip (a read only passive radio frequency identification device), to increase traceability of dogs and provide a deterrent against irresponsible ownership. This is an integral part of a wider policy on raising standards of welfare for dogs”.

 

2.2     Mae'n mynd ymlaen i ddatgan fel a ganlyn (tudalen 14): -

 

Increasing the traceability of breeders and owners is expected to result in a number of animal welfare benefits:

 

·         improved traceability of dog owners may act as a deterrent to irresponsible dog ownership and may assist enforcement authorities in the prosecution of cruel and irresponsible owners;

·         in cases where welfare or medical problems arise which indicate that the source of the problem was improper breeding practices or a poor breeding environment etc., it will be possible to identify the breeder and take the necessary action to ensure there is no future reoccurrence;

·         a good record of dog ownership will enable veterinarians to contact owners about health schemes.

 

2.3     Mae rhai pryderon na fydd y ddeddfwriaeth, fel y'i drafftiwyd, yn cyflawni – a hynny am amryw resymau – yr amcanion polisi a amlinellwyd uchod sy'n ymwneud ag olrhain a lles anifeiliaid.

 

Safon y microsglodion

 

2.4     Nid oes angen i'r microsglodion gyrraedd safon benodol ac felly ni ellir sicrhau bod modd olrhain ci.

 

2.5     Gogledd Iwerddon yw'r unig wlad yn y Deyrnas Unedig hyd yma i'w gwneud yn orfodol i ficrosglodynnu pob ci. Mae Rheoliadau Cŵn (Trwyddedu ac Adnabod) (Gogledd Iwerddon) 2012 yn darparu bod yn rhaid i'r microsglodyn a ddefnyddir gwrdd naill ai â safon ISO 11784:1996 neu ag Atodiad A i Safon ISO 11785:1996 y Safon Ryngwladol ar gyfer Microsglodion.

 

2.6     Mae Llywodraeth y DU yn bwriadu cyflwyno Rheoliadau Microsglodynnu Cŵn (Lloegr) 2014 a fydd yn ei gwneud yn ofynnol bod microsglodion yn cyrraedd safonau ISO 11784:1996 neu 11785:1996 (ar wahân i Atodiad A).

 

2.7     Mae Rheoliadau Tocio Cynffonnau Cŵn Gwaith (Cymru) 2007 eisoes yn ei gwneud ofynnol bod rhai cŵn yng Nghymru yn cael eu microsglodynnu. Mae'r rheoliadau yn ei gwneud yn ofynnol bod y microsglodion a ddefnyddir yn cyrraedd naill ai safon ISO 11785 neu Atodiad A i Safon ISO 11785.

 

2.8     Er nad yw'r cynllun teithio ar gyfer anifeiliaid anwes, sy'n ei gwneud yn ofynnol i osod microsglodion ar gŵn a gludir dramor, yn nodi pa fath o ficrosglodyn i'w ddefnyddio, mae canllawiau Llywodraeth y DU yn nodi fel a ganlyn: -

 

Bydd cwmnïau cludiant yr UE yn darllen microsglodion sy'n bodloni safonau'r Sefydliad Rhyngwladol ar gyfer Safoni ISO 11784 ac ISO 11785 pan fyddwch yn cofrestru ar gyfer eich taith.

 

Mae'n rhaid i chi ddod â'ch darllenydd microsglodyn eich hun pan fyddwch yn teithio os nad yw microsglodyn eich anifail anwes yn cwrdd â safonau'r ISO.

 

2.9     Ymddengys bod hyn yn awgrymu bod anhawster o fewn yr UE i ddarllen microsglodion nad ydynt yn bodloni safonau'r ISO. Nid yw'n glir o'r Memorandwm Esboniadol pa ficrosglodion y gall sganwyr Awdurdodau Lleol eu darllen.

 

2.10   Ar dudalen 4 o'r Memorandwm Esboniadol, mae Llywodraeth Cymru yn datgan fel a  ganlyn:

 

The Regulations cover the basic requirements to introduce compulsory microchipping in Wales. Officials are working with counterparts in Defra on the development of Industry Standards for microchips and databases, as well as a compulsory training course for implanters. Once this work has been completed, the Animal Welfare (Identification of Dogs) (Wales) Regulations 2014 will be amended to include these additional requirements. [Fy mhwyslais i]

 

2.11   Ni wyddys pryd y bydd Llywodraeth y DU yn gosod Rheoliadau Microsglodynnu Cŵn (Lloegr) 2014. Fodd bynnag, ni fydd y gofyniad i ficrosglodynnu yn dod i rym tan fis Ebrill 2016.

 

2.12   Felly, mae'n debygol y bydd y rhan fwyaf o gŵn yng Nghymru eisoes wedi cael microsglodyn cyn i'r gwaith gael ei gwblhau. Os bydd Llywodraeth Cymru yn dymuno cymhwyso safon ddiwydiant benodol o ganlyniad i'r gwaith a wnaed, nid yw'n glir sut y bydd hyn yn effeithio ar yr anifeiliaid hynny sydd eisoes wedi cael microsglodyn.

 

Darpariaethau gorfodi

 

2.13   Mae rheoliad 10 yn darparu ei bod yn drosedd, sy'n agored i ddirwy o hyd at £500, os bydd perchennog yn methu â microsglodynnu ei gi yn unol â'r rheoliadau.

 

2.14   Er bod y Rheoliadau yn darparu mai'r Awdurdod Lleol fydd yn gorfodi'r rheoliadau yn ei ardal, ni roddir pŵer i swyddogion gymryd unrhyw gamau sy'n arwain at erlyn y ceidwad. Nid oes, er enghraifft, unrhyw bŵer i gymryd anifail neu i sganio anifail.

 

2.15   Ar dudalen 8 o'r Memorandwm Esboniadol, mae Llywodraeth Cymru yn datgan fel a  ganlyn:

 

Local Authorities intend to take a reactive rather than a proactive approach to enforcing these Regulations. As such it is expected that enforcement will be restricted to irresponsible owners whose dogs have been allowed to cause a problem such as fouling, being out of control or stray, cruelty cases or cases of unlicensed breeding.

 

 

2.16   Nodir hefyd ar dudalen 11:

 

Under the Animal Welfare Act 2006 (the ‘parent’ Act), enforcers will have the power to issue improvement notices before having to take any legal action, reducing the potential impact on the judicial system.

 

2.17   Ni ellir cyflwyno hysbysiad gwelliant o dan adran 10 o Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006 dim ond os yw arolygydd o'r farn bod person yn methu â sicrhau y diwellir anghenion anifail y mae'n gyfrifol amdano.

 

2.18   Ni fyddai pŵer o'r fath yn galluogi hysbysiad i gael ei gyflwyno i berchennog am fethu â microsglodynnu oni bai bod rhai pryderon lles eraill hefyd. Ni fyddai'n cynorthwyo yn achos baw cŵn, er enghraifft. Mewn enghraifft o'r fath, lle mae gan gi berchennog, a lle nad oes unrhyw bryderon lles, ni fyddai gan Awdurdod Lleol bŵer i sganio'r ci yn y lle cyntaf, sy'n ofynnol cyn y gellir rhoi hysbysiad gwelliant iddo am fethu â microsglodynnu.

 

2.19   Os mai dim ond pan gedwir ci yn y ddalfa, neu pan fydd y perchennog yn cydsynio, y gall Awdurdodau Lleol sganio anifail, mae'n anodd gweld sut y bydd y rheoliadau hyn yn cynyddu’r achosion o ficrosglodynnu, ac felly'r gallu i olrhain.

 

Gofynion y gronfa ddata

 

2.20   Ar dudalen 10 o'r Memorandwm Esboniadol, mae Llywodraeth Cymru yn datgan bod y rheoliadau yn ei gwneud yn ofynnol bod cronfa ddata yn cadw gwybodaeth benodol. Yn ogystal, ar dudalen 17, cyfeirir hefyd at ofynion penodol ar gyfer gweithredwyr cronfeydd data yn y ddeddfwriaeth.

 

2.21   Mae'r Memorandwm Esboniadol yn anghywir yn hyn o beth. Nid yw'r rheoliadau yn gosod unrhyw ofynion ar weithredwyr cronfeydd data i gydymffurfio â safonau penodol.

 

2.22   Yn hytrach, maent yn gofyn i berchennog ci "gredu'n rhesymol" bod gweithredwyr y cronfeydd data yn cydymffurfio â'r gofynion yn rheoliad 9.

 

2.23   Yr anhawster gyda'r dull hwn yw bod gweithredwyr cronfeydd data heb eu rheoleiddio, ac felly nad oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw ffordd o'i gwneud yn ofynnol i weithredwyr cronfeydd data gwrdd â'r gofynion yn rheoliad 9 os nad ydynt yn dymuno gwneud hynny, neu i roi i berchnogion y wybodaeth y bydd ei hangen arnynt i fodloni eu hunain bod y gronfa ddata yn cwrdd â'r gofynion. Nid oes dyletswydd ar y person sy'n gwneud y microsglodynnu i ddarparu'r wybodaeth ychwaith.

 

2.24   Felly, mae'n anodd gweld sut y gall perchnogion cŵn fodloni eu hunain bod gweithredwr cronfa ddata yn cydymffurfio â'r safonau gofynnol.

 

2.25   Mae hyn yn achosi mwy o anawsterau fyth i berchnogion dilynol cŵn sydd â microsglodyn. Er y gallai'r ceidwad gwreiddiol fod yn fodlon ynghylch y gofynion, drwy wybodaeth a roddwyd yn wirfoddol gan y person sy'n gwneud y microsglodynnu, os nad oes rheidrwydd i ddarparu rhyw fath o ddogfennaeth, heblaw enw'r gweithredwr o dan reoliad 4(2) (a), nid oes gan y ceidwad newydd unrhyw ffordd o fod yn fodlon ynghylch y materion yn rheoliad 9 heb gysylltu â gweithredwr y gronfa ddata cyn derbyn y ci.

 

2.26   Yn adran 'asesiad o'r gystadleuaeth' y Memorandwm Esboniadol (tudalen 16) mae Llywodraeth Cymru yn datgan fel a ganlyn:

 

“The market is dominated by four large database operators with an unknown quantity of smaller organisations”

 

2.27   Trafodir y mater hwn hefyd o fewn Asesiad Effaith DEFRA (Mawrth 2012) ar ficrosglodynnu cŵn.

 

Yn yr asesiad hwnnw nodir:-

 

There are currently 4 databases registering microchips in England. Moving to a form of compulsory micro chipping will increase demand for microchips therefore creating market opportunities for new market entrants. This increased demand may lead to further databases being established. It is anticipated that, to ensure minimum standards of service are met and to avoid any unscrupulous operators setting up business, all databases, existing and new, will need to meet minimum standards. Whilst databases are not currently formally approved, the risk is that without minimum standards providers may set up cut price systems that do not offer a satisfactory level of service and as a result situations needing an urgent response are not resolved. To achieve this, service and data protection standards will need to be agreed, which might include meeting standards already set out in Part 2 of The Welfare of Racing Greyhounds Regulations 2010, or else the databases should achieve compliance with ISO standards. Of the databases operating in England only Petlog is currently ISO certified, so it is likely therefore that other existing databases may incur costs associated with meeting the standards established by any Defra approval scheme if after consultation it is decided to insist on all databases being ISO compliant (also see paragraph 54 )

 

 2.28 Er bod hynny'n annhebygol, gallai Llys gael perchnogion cŵn yn euog o'r drosedd o fethu â chofrestru ar gronfa ddata sy'n cydymffurfio â rheoliad 9, er nad oedd unrhyw ffordd iddynt gydymffurfio â'r rheoliad, er enghraifft oherwydd bod pob gweithredwr cronfa ddata wedi penderfynu peidio â darparu'r wybodaeth. Nid yw rhoi’r cyfrifoldeb ar geidwad ci i wirio safonau'r gronfa ddata yn ddull priodol o sicrhau bod cronfeydd data yn cyrraedd safonau penodol, ac felly'n darparu'r gallu i olrhain.

 

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

Mehefin 2014

 

Ymateb Llywodraeth Cymru i ddilyn.